Rydyn ni yma i chi
P'un a ydych yn poeni am arian neu angen help i reoli eich Parkinson's, nid ydych ar eich pen eich hun. Gallwch gael y wybodaeth a'r gefnogaeth sy'n addas ar eich cyfer gan ddefnyddio ein hofferyn cymorth.
Dod o hyd i grwpiau lleol, cefnogaeth a gweithgareddau cymdeithasol
Mae yna lawer o gefnogaeth wyneb yn wyneb ac ar-lein i'ch helpu i fyw'n dda gyda Parkinson's. Chwiliwch i ddod o hyd i'ch grŵp lleol agosaf, cefnogaeth emosiynol ac ymarferol, gwasanaethau iechyd a lles neu weithgareddau cymdeithasol
Cynghorwyr Parkinson's yng Nghymru
Mae cynghorwyr Parkinson's yn cynnig gwybodaeth unigol a chefnogaeth i bobl sy’n dioddef o Parkinson’s, ac i’w teuluoedd a’u gofalwyr.
Cysylltu â ni
pob ymholiad:
- Ffôn: 020 7963 3600
- E-bost: [email protected]
Neu ysgrifennwch at: Parkinson's UK Wales/Cymru, Maritime Offices, Woodland Terrace, Maesycoed, Pontypridd CF37 1DZ. Mae'r cyfeiriad hwn ar gyfer gohebiaeth yn unig.
I gael cyfarwyddiadau am sut i godi arian, a chefnogaeth wrth wneud hynny:
Keri McKie, Wales Fundraiser
- Ffôn: 07900 052 526
- E-bost: [email protected]
Mae’r rhai sy’n codi arian dros yr achos yn trefnu amrywiaeth fawr o ddigwyddiadau a gweithgareddau er budd Parkinson’s UK gan gefnogi unigolion a grwpiau cymunedol wrth iddynt godi arian.
Cymrwch olwg ar ein syniadau am sut i drefnu digwyddiadau codi arian - beth allech chi ei wneud?
Gallwch gadw mewn cysylltiad â’n gweithgareddau yng Nghymru drwy’n tudalen Facebook.
Live Loud! Rhaglen gymorth i’r llais
Mae Live Loud!, rhaglen gymorth i’r llais, yn grŵp ar-lein hwyliog a chymdeithasol, am ddim gan Parkinson’s UK i’ch helpu chi i ymarfer siarad yn uwch ac yn gliriach.